Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Mawrth 2020
Amser:
10.03 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5978
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Carwyn Jones AC (yn lle Jayne Bryant AC) Angela Burns AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford, Llywodraeth Cymru Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Neil Surman, Llywodraeth Cymru Sapna Lewis, Llywodraeth Cymru Grace Martins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, a dirprwyodd Carwyn Jones AC ar ei rhan.
2.1 Gwnaeth Dr Frank Atherton ddatganiad rhagarweiniol byr.
2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Frank Atherton a Dr Rob Orford.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’u swyddogion.
3.2 Cytunodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch gofal iechyd parhaus a'r gwahaniaethau rhwng y prosesau yng Nghymru a Lloegr.
3.3. Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor, ar ôl cyhoeddi’r Bil, i egluro a yw’r pŵer i gau porthladdoedd a meysydd awyr Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.
3.4 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n ymwneud ag elfennau yn y Bil y bydd angen cymeradwyaeth Seneddol arnynt cyn iddynt gael eu deddfu yn hytrach na chymeradwyaeth y Gweinidog.
3.5 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i roi nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y trafodaethau a'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r diwydiant bwyd a'i staff.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.